Llanfair Clydogau

Llanfair Clydogau
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1434°N 4.0138°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000377 Edit this on Wikidata
Cod OSSN622514, SN625515 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan gwledig a chymuned yn ne Ceredigion yw Llanfair Clydogau. Fe'i lleolir ar lôn y B4343 tua 4 milltir i'r dwyrain o Lanbedr Pont Steffan.

Saif ar lan ddwyreiniol Afon Teifi gyda bryniau Craig Twrch (1226 troedfedd) a Bryn Brawd (1588 troedfedd) yn gefn iddi i'r dwyrain, ar y ffin â Sir Gaerfyrddin. Mae tair nant Clywedog yn cyfarfod â'i gilydd yno.

Mari'r Cwrw; llun 1880-1890) gan John Thomas.

Rhed ffordd Rufeinig Sarn Helen o'r gaer Rufeinig yn Llanio i gyffiniau Llanfair Clydogau. Yno, ychydig i'r gorllewin o'r pentref, mae'n fforchio, gydag un fforch yn arwain i'r dwyrain heibio Llanymddyfri a Dolaucothi i Nidum (Castell Nedd), a'r llall yn mynd yn ei blaen i gyfeiriad Caerfyrddin.

Roedd digon o waith plwm ac arian yn yr ardal ar un adeg ond maent wedi pallu ers talwm. Filltir i lawr y lôn i'r de mae pentref bychan Cellan, magwrfa Moses Williams (ganed yno yn 1685) a'r ysgolhaig Griffith John Williams.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search